At:               Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Gan:           Ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor

Dyddiad:     Gorffennaf 2011

 

MATERION O FEWN PORTFFOLIO’R PWYLLGOR IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL AC YSTYRIAETH O’I FLAENRAGLEN WAITH

Diben

1.        Mae’r papur hwn yn cynnwys gwybodaeth ar gyfer trafodaeth y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar faterion o fewn ei bortffolio a’i ystyriaeth o’i flaenraglen waith.

Portffolio’r Pwyllgor

2.        Rôl y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yw ystyried materion polisi a deddfwriaethol yn ymwneud ag iechyd corfforol a meddyliol pobl Cymru ac iechyd y cyhoedd, gan gynnwys y system gofal cymdeithasol.

3.        Disgwylir i’r Pwyllgor Busnes adrodd ar ddyletswyddau a chylchoedd gorchwyl pwyllgorau’r Pedwerydd Cynulliad; ond nid yw’r adroddiad wedi’i osod hyd yma. Fe fydd aelodau’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cael copi o’r adroddiad unwaith y bydd ar gael. Yn y cyfamser mae cyfrifoldebau’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, fel y’u cytunwyd dros dro gan y Pwyllgor Busnes, wedi’u nodi isod:

-        Pob agwedd ar y  GIG

-        Gofal cymdeithasol

-        Gwasanaethau iechyd meddwl

-        Iechyd y cyhoedd a diogelu iechyd

-        Gwella iechyd, pobl hŷn a gofalwyr

-        Gweithgarwch gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdodau lleol

-        Rheoleiddio lleoliadau preswyl, cartref ac oedolion

-        Cymhorthion, addasiadau a chefnogaeth yn y cartref

-        Byw yn annibynnol

-        Gofal yn y gymuned

-        Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

-        Diogelwch bwyd

-        Ymchwil a datblygu ym maes iechyd a gofal cymdeithasol

-        Gwasanaeth iechyd y Gwasanaeth Carchardai

4.        Mae atodiad A yn cynnwys papur gan Wasanaeth Ymchwil y Cynulliad sydd yn amlinellu’r datblygiadau polisi a deddfwriaethol pwysig sy’n dod o fewn cylch gorchwyl y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae Adroddiad Etifeddiaeth Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol y Trydydd Cynulliad  hefyd wedi’i gynnwys yn atodiad B er gwybodaeth i’r Aelodau.

5.        Efallai yr hoffai’r Aelodau nodi bod cylch gorchwyl y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn wahanol i gylch gorchwyl y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol yn y Cynulliad diwethaf. Mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn bennaf gyfrifol am iechyd a gofal cymdeithasol oedolion, er bod modd iddo ystyried materion sy’n ymwneud â phlant lle bo hynny’n briodol. Yn unol â’r strwythur pwyllgorau newydd mae iechyd plant, gofal cymdeithasol i blant, diogelu plant a CAFCASS yn dod o fewn cylch gorchwyl y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc. Mae llywodraeth leol yn dod o fewn cylch gorwyl y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol. O ganlyniad, nid yw’r holl argymhellion a wneir yn yr Adroddiad Etifeddiaeth yn berthnasol i’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol newydd.

Blaenraglen waith y Pwyllgor

Ymchwiliadau polisi

6.        Efallai yr hoffai’r Pwyllgor lansio ymchwiliad byr cyn y toriad er mwyn paratoi ar gyfer tymor yr hydref fel bod modd casglu barn rhanddeiliaid dros yr haf. Fe fydd awgrymiadau ar gyfer ymchwiliadau byr posibl yn cael eu trafod yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor os hoffai’r Aelodau lansio ymchwiliad cyn diwedd y tymor hwn.

Deddfwriaeth

7.        Cyn cyhoeddi rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer y pum mlynedd nesaf (a ddisgwylir ar 12 Gorffennaf), amlinellodd y Prif Weinidog flaenoriaethau deddfwriaethol y llywodraeth mewn datganiad yn y Cyfarfod Llawn ar 14 Mehefin.

8.        Yn seiliedig ar y datganiad hwn, mae’n debyg y bydd y Biliau a ganlyn yn cael eu cyfeirio i’r Pwyllgor dros y 5 mlynedd nesaf:

-        Bil Gofal Cymdeithasoli Gymru i gydgrynhoi’r casgliad amrywiol o ddeddfwriaeth sydd eisoes yn bodoli ym maes gofal cymdeithasol, yn seiliedig ar adolygiad trylwyr o’r fframwaith deddfwriaethol a rheoleiddio;

-        Bil Rhoi Organaua fydd yn darparu ar gyfer system i allu dewis peidio â rhoi organau (“opt-out system”).

9.        Mae maniffesto Plaid Lafur Cymru ar gyfer etholiad y Cynulliad 2011 hefyd yn nodi dau faes deddfwriaethol arall i ymgynghori arnynt a allai ddod o fewn cylch gorchwyl y Pwyllgor:

-        deddfwriaeth i wahardd ysmygu mewn mannau penodol ar dir ysbytai; a

-        deddfwriaeth lle byddai’n ofynnol i gynnwys rhieni a chael eu caniatâd ar gyfer gweithdrefnau tyllu cosmetig ar berson ifanc o dan oedran penodol.

10.     Yn seiliedig ar ymarfer yn ystod y Trydydd Cynulliad, ychydig o rybudd a roddir gan Lywodraeth Cymru cyn cyflwyno Biliau. Oherwydd rôl ddeuol y Pwyllgor mewn perthynas â chraffu ar ddeddfwriaeth a pholisi, fe fydd angen i’r Pwyllgor fod yn hyblyg wrth gynllunio’i flaenraglen waith er mwyn gallu ymateb yn effeithiol i ofynion craffu ar ddeddfwriaeth.

Camau i gymryd gan y Pwyllgor

11.     Gwahoddir y Pwyllgor i:

-     nodi ei gyfirfoldebau dros dro, cyn i’r Pwyllgor Busnes gyhoeddi ei adroddiad perthnasol (paragraff 3);

-     trafod lansio ymchwiliad cyn toriad yr haf (paragraff 6); a

-     nodi’r angen i fod yn hyblyg wrth gynllunio ei flaenraglen waith er mwyn gallu ymateb i ofynion craffu ar ddeddfwriaeth (paragraff 10).